Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3
Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Gorffennaf 2023
Amser:
09.30 -
10.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13638
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Tom Giffard AS (Cadeirydd) Joyce Watson AS (Cadeirydd) Vikki Howells AS Altaf Hussain AS Adam Price AS Jack Sargeant AS |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Owain Davies (Ail Glerc) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cyd-Gadeirydd, Joyce Watson AS, yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
2.1 Derbyniwyd y cynnig.
3 Protocol cyd-gadeirio a ffyrdd o weithio'r Pwyllgor
3.1 Nododd yr Aelodau'r protocol ar gyfer trefniadau cyd-gadeirio.
3.2 Nododd yr Aelodau'r Rheol Sefydlog dros dro arfaethedig ar gyfer y Pwyllgor Diben Arbennig Covid.
3.3 Trafododd yr Aelodau rôl a chylch gwaith y Pwyllgor a chytunwyd i olrhain gwaith ymchwiliad cyhoeddus y DU yn agos a dechrau cael cyngor a chymorth arbenigol ar gyfer ei waith. Cytunodd y Pwyllgor i ailymgynnull ym mis Medi i ddatblygu amserlen ar gyfer ei waith.